GwyneddOWENSnowy Dymuna Michael, Myrddin a theulu'r diweddar Gwynedd Owen, gynt o Llanberis a Chaernarfon, ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddanghoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli tad, taid, brawd a ffrind arbennig i nifer. Diolch arbennig i holl staff Cartref Nyrsio Cerrig yr Afon Felinheli am y gofal tyner a gafodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwerthfawrogwyd y llu cardiau, galwadau ffon a'r rhoddion hael o £800 a dderbyniwyd er cof am Gwynedd tuag at Clefyd Siwgr. Diolch i'r Parchedig John Pritchard am ei wasanaeth teimladwy ddiwrnod yr angladd, i Arwel Jones am ei deyrnged arbennig i 'ffrind ', ac i Annette Bryn Parri am ei chyflwyniadau arbennig ar yr organ. Diolch i E.W.Pritchard am drefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwynedd